José de la Cuadra

Awdur straeon byrion a nofelydd yn yr iaith Sbaeneg o Ecwador oedd José de la Cuadra (3 Medi 190327 Chwefror 1941) a oedd yn un o lenorion Grŵp Guayaquil.

Ganed yn Guayaquil, yn Nhalaith Guayas, Ecwador. Mynychodd Uwchysgol Vicente Rocafuerte cyn dechrau astudio'r gyfraith ym Mhrifysgol Guayaquil ym 1921. Bu'n hynod o weithgar mewn mudiadau myfyrwyr, ac ym 1925 sefydlodd yr "Universidad Popular" er cynorthwyo myfyrwyr tlawd. Derbyniodd ei radd baglor ym 1927, ac astudiodd hefyd am ddoethuriaeth yn y gyfraith. Priododd ag Inés Múñez del Arco Andrade ym 1928. Gweithiodd yn athro mewn uwchysgol ac yn y brifysgol, ac yn was sifil.

Megis awduron eraill Grŵp Guayaquil, ysgrifennai José de la Cuedra am fywydau'r ''montuvio'' (y bobl o dras gymysg frodorol, Affricanaidd, ac Ewropeaidd) o ranbarth arfordir Ecwador, a hynny gydag agweddau o realaeth gymdeithasol. Canolbwyntia gwaith cynnar de la Cuadra ar ddyheadau a hiraeth ymhlith y fân-fwrdeisiaeth yn Guayaquil. Cofir yn bennaf am ei straeon byrion, a gyhoeddwyd mewn casgliadau megis ''Repisas'' (1931) a ''Horno'' (1932). Ei nofel enwocaf yw ''Los Sangurimas'' (1934), o genre ffuglen y ''montuvios'', a ellir ei hystyried yn esiampl gynnar o realaeth hudol. Mae ei waith diweddaraf yn ymwneud â phobl yr ymylon: y ''montuvios'', tlodion y ddinas, a'r bobloedd Amerindiaidd. Yn ogystal â'i ffuglen, ysgrifennodd de la Cuadra ysgrifau ar bynciau cymdeithasegol, er enghraifft ei draethawd ''El montuvio ecuatoriano'' (1937), a bywgraffiadau.

Penodwyd de la Cuadra yn athro'r gyfraith benyd ym Mhrifysgol Guayaquil ym 1937, a gwasanaethodd yn swydd Ysgrifennydd Cyffredinol dros Weinyddiaeth Gyhoeddus ac yn gonswl i'r Ariannin ac i Wrwgwái. Bu farw José de la Cuadra yn ei ddinas enedigol, Guayaquil, yn 37 oed o waedlif ar yr ymennydd. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1 ar gyfer chwilio 'de la Cuadra, José', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    Llyfr