Heinrich Zimmer

Ysgolhaig Celtaidd ac Indolegydd o'r Almaen oedde Heinrich Friedrich Zimmer (11 Rhagfyr 185129 Gorffennaf 1910).

Ganed ef i deulu o amaethwyr yn Kastellaun yng ngorllewin yr Almaen. Astudiodd ym mhrifysgol Strasbourg, cyn astudio Indoleg a Sanskrit dan Rudolf von Roth ym Mhrifysgol Tübingen. Yn 1878 daeth yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Friedrich Wilhelm, Berlin, ac yn 1881 daeth yn Athro Sanskrit ac Ieithyddiaeth Gymharol ym Mhrifysgol Greifswald. Yn 1901, daeth yn Athro cynhtaf Ieithoedd Celtaidd ym Mhrifysgol Friedrich Wilhelm University, y swydd gyntaf o'i bath yn yr Almaen. Ymhlith ei fyfyrwyr yno roedd Rudolf Thurneysen, a dilynwyd ef yn y swydd gan Kuno Meyer. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 2 canlyniadau o 2 ar gyfer chwilio 'Zimmer, Heinrich', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    Llyfr
  2. 2
    gan Zimmer, Heinrich
    Cyhoeddwyd 2008
    Llyfr