Friedrich Schlegel

Ysgolhaig, beirniad llenyddol, ieithegwr, ac ysgrifwr Almaenig oedd Karl Wilhelm Friedrich Schlegel (10 Mawrth 177212 Ionawr 1829).

Ganed ef yn Hannover, Etholyddiaeth Hannover, a oedd yn rhan o'r Ymerodraeth Lân Rufeinig. Astudiodd y gyfraith a'r clasuron yn Göttingen a Leipzig. Mae ei weithiau creadigol cynnar yn cynnwys y nofel grasboeth ''Lucinde'' (1799) a'r drasiedi ''Alarcos'' (1802).

Gyda'i frawd hŷn August Wilhelm Schlegel golygydd y cyfnodolyn ''Das Athenäum'' (1798–1800), a fu'n cyhoeddi gwaith Novalis ac eraill. Bu ysgrifau a mân-feirniadaeth Friedrich Schlegel yn ''Das Athenäum'' yn ei osod ar flaen y gad yn y mudiad Rhamantaidd Almaenig.

Mae Friedrich Schlegel yn nodedig am ei astudiaethau o hanes llenyddol, yn enwedig ''Geschichte der alten un neuen Literatur'' (1815), a'i waith ar yr iaith Sansgrit a'i barddoniaeth, ''Sprache und Weisheit der Inder'' (1808), a fu'n gyfraniad cynnar pwysig i astudiaethau Dwyreiniol yn Ewrop.

Bu farw Friedrich Schlegel yn Dresden, Teyrnas Sachsen, yn 56 oed. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1 ar gyfer chwilio 'Schlegel, Friedrich', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    Llyfr