Antoine de Saint-Exupéry
Awyrennwr ac awdur o Ffrainc oedd Antoine Marie Jean-Baptiste Roger de Saint-Exupéry (29 Mehefin 1900 – 31 Gorffennaf 1944).Ganed ef yn Lyon, i deulu oedd o dras uchelwrol. Wedi hyfforddi fel awyrennwr yn ystod ei wasanaeth milwrol yn 1921, bu'n gweithio fel peilot i gwmni Latécoère, yn cario'r post o Toulouse i Senegal. Cyhoeddodd ''Courrier Sud'', yn seiliedig ar ei brofiad yn y swydd yma, yn 1929.
O 1932, bu'n canolbwyntio ar ysgrifennu a newyddiaduraeth. Fel newyddiadurwr, bu yn Fietnam yn 1934 , Moscow yn 1935, a Sbaen yn 1936. Yn 1939, ymunodd a'r awyrlu Ffrengig. Wedi cwymp Ffrainc, symudodd i Efrog Newydd gyda'r bwriad o barhau'r rhyfel a dod yn llefarydd dros y Résistance Ffrengig. Yn 1944 bu'n hedfan dros dde Ffrainc yn cymryd lluniau o'r awyr i gasglu gwybodaeth ar gyfer ymosodiadau'r Cynghreiriaid. Diflannodd yn ystod un o'r teithiau hyn, ar 31 Gorffennaf. Dim ond yn 1998 y cafwyd hyd i'w awyren.
Ysgrifennodd ei lyfr enwocaf, ''Le Petit Prince'', yn Efrog Newydd yn 1943. Cyhoeddwyd addasiad ohono i'r Gymraeg fel ''Y Tywysog Bach'' gan Llinos Dafis (Edition Tintenfass, Neckarsteinach 2007). Darparwyd gan Wikipedia