Juan Rulfo
Nofelydd, awdur straeon byrion, a sgriptiwr Mecsicanaidd yn yr iaith Sbaeneg oedd Juan Nepomuceno Carlos Pérez Rulfo Vizcaíno (16 Mai 1917 – 7 Ionawr 1986) a ystyrir yn un o lenorion gwychaf America Ladin yn yr 20g, er iddo ond gyhoeddi dau lyfr yn ystod ei oes: y gyfrol o straeon ''El llano en llamas'' (1953) a'r nofel ''Pedro Páramo'' (1955).Ganed yn Jalisco i deulu o dirfeddianwyr cefnog. Yn ystod ei blentyndod yng nghefn gwlad Gorllewin Mecsico roedd yn dyst i Ryfel Cristero (1926–29). Collodd ei deulu y drwch o'i ffortiwn o ganlyniad i drais a therfysg y cyfnod. Symudodd Rulfo a'i deulu i Ddinas Mecsico ym 1933 a gweithiodd Juan i gwmni rwber. Yn ddiweddarach cafodd waith yn ysgrifennu sgriptiau ffilm. Roedd yn hoff iawn o waith y nofelydd Americanaidd William Faulkner.
Ysgrifennodd sawl stori fer i'r cylchgrawn llenyddol ''Pan'', a chawsant eu casglu, gyda straeon eraill, yn ''El llano en llamas''. Maent yn ymwneud â thrais ac anfoesoldeb yng nghefn gwlad gan ddefnyddio technegau traethiadol newydd megis llif ymwybod, ôl-fflachiau, a safbwyntiau cyfnewidiol. Enghraifft cynnar o'r nofel realaidd hudol yw ''Pedro Páramo'', sydd yn archwilio cwymp ''cacique'' (penadur) mewn byd uffernol a drigiannir gan y meirw.
Penodwyd yn gyfarwyddwr adran olygyddol y Sefydliad Cenedlaethol dros Astudiaethau Brodorol, a bu'n cynghori awduron ifainc yng Nghanolfan Llenorion Mecsico. Bu farw Juan Rulfo yn Ninas Mecsico yn 68 oed. Darparwyd gan Wikipedia