Antonio Rosmini
Athronydd ac offeiriad o'r Eidal oedd Antonio Rosmini-Serbati (24 Mawrth 1797 – 1 Gorffennaf 1855) sydd yn nodedig am sefydlu'r Institutum Charitatis, urdd Gatholig elusennol ac addysgol a elwir hefyd y Rosminiaid.Ganed Antonio Rosmini-Serbati ar 24 Mawrth 1797 i deulu bonheddig yn Rovereto, Iarllaeth Tyrol, yn yr Ymerodraeth Lân Rufeinig. Astudiodd athroniaeth ym Mhrifysgol Padova cyn iddo gael ei ordeinio ym 1821.
Sefydlwyd yr Institutum Charitatis gan Rosmini yn Domodossola, Piemonte, ym 1828. Dylanwadwyd arno gan Maddalena di Canossa, a sefydlodd y Canosiaid yn Verona ym 1808, a threfnodd Rosmini ei urdd ar batrwm y Iesuwyr. Derbyniodd yr Institutum Charitatis sêl bendith y Pab Grigor XVI ym 1839.
Ysgrifennodd Rosmini o blaid cenedlaetholdeb Eidalaidd yng nghyfnod y ''Risorgimento'' a chyfrannodd at adfywiad athroniaeth yn yr Eidal yn y 19g, er enghraifft yn ei dair chyfrol ''Nuovo saggio sull’origine delle idee'' (1830). Codai helynt o ganlyniad i'w ddadleuon diwinyddol, a oedd yn ceisio cymodi diwinyddiaeth Gatholig â syniadaeth wleidyddol a chymdeithasol fodern. Yn ei ysgrifau gwleidyddol, rhoddai ei gefnogaeth i genedlaetholdeb ond bu'n lladd ar elfennau gwrthglerigol a gwrth-Gatholig y mudiad hwnnw.
Ym 1848, daeth Rosmini yn gyfeillgar â'r Pab Pïws IX, ac yn sgil y chwyldro yn Rhufain aeth yn alltud gyda'r pab i Gaeta yn Nhachwedd 1848. Er gwaethaf ei gefnogaeth i'r pab, cafodd dau o weithiau Rosmini, a oedd yn dadlau o blaid diwygiadau eglwysig, eu gwahardd gan Gynulliad y Chwilys. Bu farw Rosmini ar 1 Gorffennaf 1855 yn Stresa, Teyrnas Piemonte a Sardinia, yn 58 oed. Darparwyd gan Wikipedia