Ángel Rama

Bardd, dramodydd, a nofelydd o Wrwgwái yn yr iaith Sbaeneg oedd Ángel Rama (30 Ebrill 192627 Tachwedd 1983) sy'n nodedig fel un o brif ddeallusion a beirniaid diwylliannol America Ladin yn yr 20g.

Ganed ym Montevideo, prifddinas Wrwgwái, i fewnfudwyr o Sbaen. Astudiodd y dyniaethau yn Mhrifysgol y Weriniaeth ac yn 1945 dechreuodd weithio i Agence France-Presse. Cychwynnodd ar ei yrfa lenyddol yn ysgrifennu cerddi, dramâu, a nofelau, a fe'i cydnabyddir yn aelod blaenllaw o ''La Generación del 45''. Sefydlodd Rama a Carlos Maggi y cwmni cyhoeddi Fábula yn 1950, a chyhoeddodd ei ddau lyfr cyntaf dan enw'r wasg honno. Priododd â'r bardd Ida Vitale yn 1950. Fe'i penodwyd yn gyfarwyddwr y gyfres o lyfrau Biblioteca Artigas o 1951 i 1958, ac yn y swydd honno golygydd 28 cyfrol yn y casgliad ''Clásicos Uruguayos''. Rheolodd y cyfnodolyn ''Entregas de la Licorne'' o 1953 i 1956, a chyfrannodd yn aml at y papur newydd ''El País'' a'r cylchgrawn dylanwadol ''Marcha'' nes i unbennaeth Wrwgwái ei derfynu yn 1974.

Yn 1962, sefydlodd Ángel Rama a'i frawd Germán y cwmni cyhoeddi Arca. Gweithiodd yn Llyfrgell Genedlaethol Wrwgwái o 1949 i 1965, ac addysgodd mewn ysgol uwchradd, yn yr Instituto de Profesores Artigas, ac ym Mhrifysgol y Weriniaeth o 1966 i 1974. Roedd yn aelod o fwrdd golygyddol ''Casa de las Américas'' (Ciwba) o 1964 i 1971, pryd ymddiswyddodd mewn ymateb i erledigaeth wleidyddol y bardd Heberto Padilla. Yn sgil ei ysgariad oddi ar Vitale, priododd Rama â'r beirniad celf Marta Traba yn 1969 a symudasant i ynys Puerto Rico. Aethant i Caracas, Feneswela, yn 1974 ac yno sefydlodd y fenter gyhoeddi Biblioteca Ayacucho. Bu'n olygydd cyffredinol ar lyfrau Biblioteca Ayacucho, yn olygydd y cylchgrawn llenyddol ''Escritura'', ac yn academydd ym Mhrifysgol Ganolog Feneswela.

Symudodd yn ddiweddarach i Unol Daleithiau America a fe'i penodwyd yn athro ym Mhrifysgol Maryland yn 1981. Bu'n rhaid iddo adael yr Unol Daleithiau wedi i'r Adran Wladol amau ei fod yn gomiwnydd. Treuliodd diwedd ei oes yn Ewrop, a bu farw mewn damwain awyren ym Madrid, Sbaen, yn 57 oed, yn yr un drychineb a laddodd ei wraig Marta a'r llenorion Jorge Ibargüengoitia o Fecsico a Manuel Scorza o Beriw. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1 ar gyfer chwilio 'Rama, Ángel', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    Llyfr