Cristina Peri Rossi

Llenor straeon byrion, nofelydd, a bardd o Wrwgwái yn yr iaith Sbaeneg yw Cristina Peri Rossi (ganwyd 12 Tachwedd 1941) sy'n nodedig am ei ffuglen sy'n ymdrin â themâu metaffisegol, dirfodaeth, a rhywedd.

Ganwyd ym Montevideo i deulu o dras Eidalaidd. Astudiodd lenyddiaeth ym Mhrifysgol y Weriniaeth, Montevideo. Cyhoeddodd ei llyfr cyntaf, y casgliad o straeon ''Viviendo'', yn 1963. Merched ar ymylon cymdeithas sy'n byw mewn unigrwydd yw prif gymeriadau'r straeon hyn. Denodd ragor o sylw yn sgil y casgliad ''Los museos abandonados'' (1968) a'i nofel gyntaf, ''El libro de mis primos'' (1969), gweithiau sy'n nodweddiadol o ffuglen ddirfodol. Ymhlith ei gweithiau eraill yn nghyfnod cynnar ei gyrfa mae ''Indicios pánicos'' (1970) a'r gyfrol o gerddi ''Evohé'' (1971).

Gadawodd Wrwgwái yn 1973, wedi i'r unbennaeth ddod i rym, ac ymgartrefodd hi yn Sbaen. Gweithiodd fel newyddiadurwraig yn Barcelona, a chyhoeddwyd ei gwaith yn ''Diario 16'', ''El Periódico'', ac ''Agencia Efe''. Yn ei ffuglen a'i barddoniaeth, ysgrifennodd Peri Rossi am alltudiaeth ac ymddieithriad, er enghraifft yn ''Descripción de un naufragio'' (1975), ''Diáspora'' (1976), ''El museo de los esfuerzos inútiles'' (1983), ac ''Una pasión prohibida'' (1986). Llenor toreithiog ydyw, ac ymhlith ei weithiau eraill o nod mae ''La tarde del dinosaurio'' (1976), ''La nave de los locos'' (1984) a ''La última noche de Dostoievski'' (1992).

Mae nifer o'i weithiau yn ymwneud â themâu ffeministaidd a rhywioldeb, gan gynnwys ''Solitario de amor'' (1988), ''Fantasías eróticas'' (1991) a ''Por fin solos'' (2004), ac yn aml yn mynegi erotigiaeth lesbiaidd. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1 ar gyfer chwilio 'Peri Rossi, Cristina 1941-', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Peri Rossi, Cristina 1941-
    Cyhoeddwyd 2009
    Llyfr