Roger Penrose

Mathemategydd, ffisegydd mathemategol, athronydd gwyddoniaeth ac enillydd Gwobr Ffiseg Nobel o Loegr yw Syr Roger Penrose OM FRS Hon FinstP (ganwyd 8 Awst 1931). Mae'n Athro Emeritws Rouse Ball mewn Mathemateg ym Mhrifysgol Rhydychen, yn gymrawd emeritws yng Ngoleg Wadham, Rhydychen, ac yn gymrawd er anrhydedd yng Ngoleg Sant Ioan, Caergrawnt a Choleg Prifysgol Llundain.

Mae Penrose wedi cyfrannu'n helaeth at ffiseg fathemategol perthnasedd cyffredinol a chosmoleg. Derbynniodd nifer o wobrau ac anrhydeddau, gan gynnwys Gwobr Wolf mewn Ffiseg ym 1988, a gafodd ar y cyd gyda Steven Hawking am eu theoremau hynodyn Penrose-Hawking, a Gwobr Ffiseg Nobel ym 2020 "am y darganfyddiad bod ffurfio twll du yn rhagfynegiad cadarn o ddamcaniaeth gyffredinol perthnasedd". Ystyrir ef yn un o'r ffisegwyr, mathemategwyr a gwyddonwyr mwyaf, ac mae'n nodedig am ehangder a dyfnder ei waith mewn gwyddorau naturiol a ffurfiol. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1 ar gyfer chwilio 'Penrose, Roger', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    Llyfr