Juan Montalvo

Ysgrifwr o Ecwador yn yr iaith Sbaeneg oedd Juan Montalvo (13 Ebrill 183217 Ionawr 1889) sy'n nodedig am ei weithiau polemig rhyddfrydol ac am fod yn un o ryddieithwyr gwychaf llên America Ladin yn y 19g o ran ceinder ei arddull.

Ganed yn Ambato ar odre mynyddoedd yr Andes yng nghanolbarth Ecwador. Gweithiodd yn y gwasanaeth diplomyddol cyn iddo cyhoeddi ei ysgrifeniadau a oedd yn beirniadu llywodraeth y wlad.

Yn ei ysgrifau tanbaid mae'n lladd ar y ddau ''caudillo'' a arweiniodd Ecwador, yr Arlywyddion Gabriel García Moreno (1861–75) ac Ignacio de Veintemilla (1876–83). Cyhoeddodd ei waith yn gyntaf yn ei gyfnodolyn ''El cosmopolita'' (1866–69). Ysgrifennodd o blaid gwleidyddion rhyddfrydol, megis Eloy Alfaro Delgado, arweinydd y Blaid Ryddfrydol Radicalaidd a ddaeth i rym yn y 1890au. Un o'i brif bamffledi oedd ''La dictadura perpetua'' (1874), hortlyfr sydd yn ymosod yn ffyrnig ar unbennaeth geidwadol yr Arlywydd García Moreno. Llofruddiwyd García Moreno ar risiau'r Palas Cenedlaethol gan Faustino Rayo a rhyddfrydwyr ifainc eraill a ysbrydolwyd gan ''La dictadura perpetua''. O ganlyniad, meddai Montalvo "fy ysgrifbin i, ac nid cleddyf Rayo, a wnaeth ei ladd". Anelodd Montalvo ei ddig nid yn unig at yr unben newydd, Veintemilla, ond hefyd at y rhyddfrydwyr cymedrol nad oedd o'r un farn wrthglerigiol.

Cafodd Montalvo ei alltudio o Ecwador yn 1879 ac aeth i fyw yn Ffrainc. Daeth yn enwog y tu hwnt i'w famwlad yn sgil cyhoeddi dwy gyfrol o ysgrifau dychanol, ''Catilinarias'' (1880) a ''Siete tratados'' (1882). Mae'r rhain yn ymdrin â themâu hanesyddol, moesol, athronyddol, a diwylliannol y tu hwnt i wleidyddiaeth, ac yn nodweddiadol o arddull byw a thymer Ramantaidd yr awdur. Disgrifiodd Montalvo ei hunan yn Gatholig ryddfrydol, a fe fu'n grediniwr ffyddlon hyd ddiwedd ei oes. Bu farw ym Mharis yn 56 oed.

Cesglid rhagor o ysgrifau yn y gyfrol ''Geometría moral'', a gyhoeddwyd yn 1902 wedi ei farwolaeth. Ysgrifennodd hefyd ddilyniant i'r nofel glasurol ''Don Quixote'' gan Miguel de Cervantes, a gyhoeddwyd yn 1895 dan y teitl ''Capítulos que se la olvidaron a Cervantes''. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1 ar gyfer chwilio 'Montalvo, Juan', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    Llyfr