Gabriela Mistral

Bardd yn yr iaith Sbaeneg, addysgwraig a diplomydd o Tsile oedd Gabriela Mistral (ganwyd Lucila Godoy Alcayaga; 7 Ebrill 188910 Ionawr 1957). Hi oedd y llenor cyntaf o America Ladin i ennill Gwobr Lenyddol Nobel, ac hynny yn 1945 am "ei barddoniaeth delynegol, a ysbrydolwyd gan emosiynau grymus, sydd wedi gwneud ei henw yn symbol o uchelgeisiau delfrydyddol yr holl fyd Lladin-Americanaidd".

Ganwyd Lucila Godoy Alcayaga yn Vicuña, Tsile, i deulu o dras Sbaenaidd, Basgaidd, ac Indiaidd. Cafodd ei magu ym mhentref Montegrande, a chafodd swydd athrawes ysgol yn 15 oed. Gweithiodd ym maes addysg drwy gydol ei hoes, tra'n hefyd ysgrifennu a gwasanaethu mewn swyddi llywodraethol. Cyrhaeddodd swydd athrawes coleg a phenodwyd yn gyfarwyddwraig ysgolion gwledig. Cynorthwyodd weinidog addysg Mecsico, José Vasconcelos, wrth ddiwygio ysgolion y wlad honno. Yn ogystal â'i chyfnod yn weinidog diwylliannol Tsile, aeth i Ewrop fel is-gennad ym Madrid, Lisbon, Genoa, a Nice. Bu hefyd yn cynrychioli ei gwlad yng Nghynghrair y Cenhedloedd a'r Cenhedloedd Unedig.

Daeth i sylw fel bardd gyda'i chyfrol gyntaf, ''Sonetos de la muerte'' (1914), gwaith a enillodd wobr iddi. Mabwysiadodd y ffugenw Gabriela Mistral, cyfuniad o enwau ei hoff feirdd, Gabriele D'Annunzio a Frédéric Mistral. Mae ei hail lyfr, ''Desolación'' (1922), yn cynnwys y gerdd "Dolor" sy'n ymdrin â charwriaeth a ddaeth i ben pan wnaeth ei chariad ladd ei hun. Ni phriododd y bardd, o ganlyniad i'r profiad hwn. Ymhlith ei chasgliadau eraill o farddoniaeth mae ''Ternura'' (1924), ''Tala'' (1938), a ''Lagar'' (1954).

Bu farw yn Hempstead, Efrog Newydd, yn 67 oed. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1 ar gyfer chwilio 'Mistral, Gabriela', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    Llyfr