Thomas Merton

Ganed Thomas Merton yn Ffrainc ar 31 Ionawr 1915, yn nhref Prades (Pyrénées-Orientales). Gŵr o Seland Newydd oedd ei dad ac Americanes o dras Seisnig oedd ei fam.
:Mae'n oleuol hyd synedigaeth i siarad â Bwdhydd Zen o Japan a darganfod fod gen ti fwy yn gyffredin gydag ef na chyda dy gydwladwyr dy hun sydd heb lawer iawn o ddiddordeb mewn crefydd, neu sydd ddim ond yn ymddiddori mewn arferion allanol crefydd.
Mewn gwirionedd doedd Thomas Merton byth yn feudwy. Roedd ganddo gyfeillion ar hyd a lled y byd - Bwdhyddion o Fietnam, mynachod Hindŵ, Meistri Zen o Japan, cyfrinwyr Swffi Mwslemaidd, athrawon crefydd a chyfriniaeth o Brifysgol Caersalem, athronwyr Ffrengig, celfyddwyr a beirdd o Ewrop, De America a'r Unol Daleithiau, ysgolheigion Arabaidd, cymdeithasegwyr Mecsicanaidd, ac yn y blaen. Ysgrifennai'r rhain ato yn rheolaidd gan ymddangos wrth ei ddrws ar ôl cerdded miloedd o filltiroedd i'w weld. Er fod profiad a safwbynt gwahanol gan gyfrinwyr Cristnogol, Bwdhyddion Zen, Mwslemiaid Swffi, dedlir y dengys digwyddiadau o'r fath eu bod yn gallu croesi ffiniau archddyfarniadau, trosgynnu dogma diwinyddiaeth, ac ennill y gallu i weld Duw trwy fyw, caru a bod, a chanfod Duw ym mhopeth. Darparwyd gan Wikipedia