Marcelino Menéndez y Pelayo
Ysgolhaig a beirniad llenyddol o Sbaenwr oedd Marcelino Menéndez y Pelayo (3 Tachwedd 1856 – 19 Mai 1912) sydd yn nodedig am ei gyfraniadau at hanesyddiaeth ddiwylliannol Sbaen ac ieitheg Sbaeneg.Ganed yn Santander, Cantabria, Teyrnas Sbaen. Penodwyd yn athro llên Sbaen ym Mhrifysgol Madrid o 1878 a bu yn y swydd honno hyd at 1898. Wedi hynny, gwasanaethodd yn gyfarwyddwr Biblioteca Nacional de España o 1898 hyd at ddiwedd ei oes. Bu farw yn Santander yn 55 oed.
Cesglir ei weithiau mewn 43 cyfrol, ''Edición nacional de las obras completas de Menéndez y Pelayo'' (1940–46). Darparwyd gan Wikipedia