W. Somerset Maugham
Nofelydd, dramodydd, ac awdur straeon byrion o Sais oedd William Somerset Maugham (25 Ionawr 1874 – 16 Rhagfyr 1965).Ganed ym Mharis, Ffrainc, yn fab i Robert Ormond Maugham, cyfreithiwr y llysgenhadaeth Brydeinig. Bu farw ei rieni pan oedd William yn fachgen, ac aeth i fyw gyda'i ewythr a oedd yn ficer Whitstable, Caint. Mynychodd Ysgol y Brenin yng Nghaergaint am dair blynedd cyn astudio am gyfnod yn Hyères, ar arfordirol deheuol Ffrainc. Treuliodd y flwyddyn 1891 yn Heidelberg, ac yno bu'n mynychu darlithoedd y brifysgol. Cychwynnodd ar ei astudiaethau meddygol yn Ysbyty Sant Tomas, Lambeth, Llundain, ym 1892. Wedi iddo dderbyn ei radd ym 1897, gweithiodd yn obstetrydd yn yr ysbyty am flwyddyn. Ysgrifennodd ei lyfr cyntaf, y nofel ''Liza of Lambeth'' (1897), ar sail ei brofiadau yn trin mamau tlawd ardal Lambeth. O ganlyniad i lwyddiant bach y gyfrol, penderfynodd Maugham roi'r gorau i waith y meddyg a chychwyn ar yrfa lenyddol lawn-amser.
Ysgrifennodd ei ddrama gyntaf, ''A Man of Honour'', ym 1898, a fe'i perfformiwyd yn y Theatr Imperial, Westminster, ym 1903. Ei lwyddiant cyntaf ar y llwyfan, fodd bynnag, oedd ''Lady Frederick'', a ysgrifennwyd ganddo ym 1903 a pherfformiwyd am y tro cyntaf yn Theatr y Llys Brenhinol, Sgwâr Sloane, yn Hydref 1907. O fewn wyth mis, roedd pedwar drama o ysgrifbin Maugham i'w gweld ar lwyfannau Llundain: y gomedi ''Lady Frederick'', y ffarsiau ''Jack Straw'' a ''Mrs Dot'', a'r felodrama ''The Explorer''. Yn y cyfnod 1903–33, ysgrifennodd 36 o ddramâu i gyd, a chafodd 25 ohonynt eu perfformio a'u cyhoeddi yn ystod ei oes, y mwyafrif ohonynt yn ffarsiau'r parlwr neu gomedïau moesau yn y traddodiad Edwardaidd, yn eu plith ''The Circle'', ''Our Betters'', a ''The Constant Wife''. Cawsant eu perfformio ar draws Ewrop ac yn yr Unol Daleithiau, ac enillodd y dramodydd ddigon o arian am ei waith. Bellach mae themâu cymdeithasol y dramâu yn hen ffasiwn a chaiff Maugham ei gofio'n bennaf am ei nofelau a'i straeon byrion.
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gweithiodd Maugham yn ysbïwr yn y Swistir. Yn y cyfnod hwn cyhoeddwyd un o'i weithiau enwocaf, y nofel ''Of Human Bondage'' (1915), sydd yn cynnwys elfennau o hunangofiant, a'r nofel ''The Moon and Sixpence'' (1919) sydd yn tynnu ar fywyd yr arlunydd Paul Gauguin. Cafodd Maugham ferch o'r enw Elizabeth "Liza" Mary Maugham (1915–98) â'r addurnwr tai Syrie Wellcome, gwraig y dyn busnes Henry Wellcome. Priododd â Syrie ym 1917 ond chwalodd y briodas ym 1925 a chawsant ysgariad ym 1929. Prynodd Maugham fila yn Cap Ferrat, ger Nice, yn ne-ddwyrain Ffrainc, ym 1926 ac yno bu ei gartref am weddill ei oes. Ysgrifennodd straeon ''Ashenden'' (1928) ar sail ei brofiadau yn ysbïo, a'r nofel ddychanol ''Cakes and Ale'' (1930), mae'n debyg, i bortreadu'r awduron Thomas Hardy a Hugh Walpole.
Rhoes Maugham y gorau i'r theatr ym 1933, yn 59 oed, yn sgil derbyniad llugoer ei ddrama olaf, ''Sheppey''. Ysgrifennodd ryddiaith am flynyddoedd lawer, gan gynnwys rhagor o nofelau (megis ''The Razor's Edge'', 1944) a chasgliadau o straeon byrion, cyfrolau o ysgrifau, a'i dri chofiant, ''The Summing Up'' (1938), ''Strictly Personal'' (1941), a ''Looking Back'' (1962). Bu farw Somerset Maugham yn Nice yn 91 oed, yn dioddef o ddementia. Darparwyd gan Wikipedia