Antonio Machado
Bardd a dramodydd Sbaenaidd yn yr iaith Sbaeneg oedd Antonio Machado y Ruiz (26 Gorffennaf 1875 – 22 Chwefror 1939) a oedd yn un o aelodau blaenllaw ''La Generación del 98''.Ganed yn Sevilla, Andalucía, yn Nheyrnas Sbaen. Derbyniodd ddoethuriaeth llenyddiaeth ym Madrid cyn iddo astudio yn y Sorbonne, a gweithiodd yn athro Ffrangeg. Ffoes Sbaen yn sgil cwymp yr Ail Weriniaeth ym 1939 a bu farw yn Collioure yn ne Ffrainc yn 63 oed.
Rhennir ei farddoniaeth yn dri chyfnod: ei gerddi dan ddylanwad Rhamantiaeth yn ''Soledades'' (1903) a ''Soledades, galerías, y otros poemas'' (1907); yr arddull noeth a phrudd megis yn y gyfrol ''Campos de Castilla'' (1912); a'r themâu dirfodol a geir yn ei gasgliadau diweddaraf, ''Nuevas canciones'' (1924) a ''Poesías completas'' (1928). Darparwyd gan Wikipedia