José Lezama Lima

Bardd, nofelydd, ac ysgrifwr o Giwba yn yr iaith Sbaeneg oedd José Lezama Lima (19 Rhagfyr 19109 Awst 1976) sy'n nodedig am ei dechnegau arbrofol, ei arddull baróc, a'i fynegiant hyddysg. Fe'i ystyrir yn un o gewri llên Ciwba a chafodd ddylanwad pwysig ar lên America Ladin gyfan yn yr 20g.

Dylanwadwyd ar Lezama Lima yn gryf gan glasuron Oes Aur Sbaen a'r Symbolyddion Ffrangeg. Cymharir arddull ei ryddiaith, er enghraifft, â thelynegion y Sbaenwr Luis de Góngora. Gwelir ei wybodaeth o'r byd drwy lyfrau a'i ddiddordebau llengar yn ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, ''Muerte de Narciso'' (1937). Mae ei ail gasgliad o gerddi, ''Enemigo rumor'' (1941), yn mynegi ei synfyfyrdodau ar estheteg farddonol a galluoedd metaffisegol y bardd. Mae cerddi ''Aventuras sigilosas'' (1945) yn tynnu ar brofiadau ei ieuenctid a'r dylanwad artistig a gafodd ei fam arno yn sgil marwolaeth ei dad. Mae cerddi ''La fijeza'' (1949) hefyd yn ail-greu digwyddiadau o'i fywyd, a chesglir ei farddoniaeth ysbrydol yn y gyfrol ''Dador'' (1960).

Campwaith Lezama Lima, yn ôl nifer, ydy'r nofel dyfodiad-i-oed ''Paradiso'' (1966), stori gymhleth yn y traddodiad newydd-faróc a ysgrifennir mewn iaith astrus. Anorffenedig oedd ei ddilyniant i ''Paradiso'', ''Oppiano Licario'' (1977), a gyhoeddwyd wedi ei farwolaeth. Mae ei gasgliadau o ysgrifau a darlithoedd yn cynnwys ''Analecta del reloj'' (1953), ''La expresión americana'' (1957), a ''Tratados en la Habana'' (1958). Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 12 canlyniadau o 12 ar gyfer chwilio 'Lezama Lima, José', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    Llyfr
  2. 2
    Llyfr
  3. 3
    Llyfr
  4. 4
    Llyfr
  5. 5
    Llyfr
  6. 6
    Llyfr
  7. 7
    Llyfr
  8. 8
    Llyfr
  9. 9
    Llyfr
  10. 10
    Llyfr
  11. 11
    Llyfr
  12. 12
    Llyfr