Giacomo Leopardi
Bardd, athronydd, ysgrifwr, ac ieithegwr o'r Eidal oedd y Conte Giacomo Leopardi (29 Mehefin 1798 – 14 Mehefin 1837) sydd yn nodedig am ei farddoniaeth delynegol odidog a'i draethodau ysgolheigaidd ac athronyddol unigryw.Ganed i deulu bonheddig yn Recanati ym Marche, a oedd dan reolaeth Taleithiau'r Babaeth. Bachgen hynod o ddeallus ac henffel ydoedd, a chafodd ei lesteirio gan blwyfoldeb gwledig ei amgylchedd a diffyg adnoddau ei diwtoriaid. Gwaethaf oll, bu ei rieni yn ddideimlad i anableddau corfforol Giacomo ac yn esgeulus o'i alluoedd. Erbyn 16 oed roedd wedi dysgu Groeg, Lladin, a sawl iaith arall ar liwt ei hun, ysgrifennu dwy drasiedi a nifer o gerddi yn Eidaleg, cyfieithu sawl un o'r clasuron, a chyflawni nifer o draethodau esboniadol yn brawf o'i ddoniau ysgolheigaidd. Gwaethygodd ei afiechyd o ganlyniad i'w astudiaethau llethol, a dioddefai nam ar ei olwg. Aeth yn ddall mewn un llygad, a datblygodd gefn crwm oherwydd clefyd serebro-sbinol.
Cafodd berthynas dda gyda'i frawd a chwaer, ond ni chafodd ei drin yn annwyl gan ei rieni, hyd yn oed yn ei byliau o salwch. Mynegai ei obeithion a'i chwerwder fel ei gilydd yn ei farddoniaeth, er enghraifft "Appressamento della morte", penillion ''terza rima'' ar batrwm Francesco Petrarca a Dante Alighieri a ysgrifennwyd ganddo ym 1816. Yn niwedd ei arddegau, cafodd Leopardi ddau brofiad anhapus a sicrhaodd ei dröedigaeth at besimistiaeth. Ym 1817 dioddefodd siom ei gariad annychweledig tuag at ei gyfnither Gertrude Cassi, a oedd yn briod, yr honno a fyddai'n destun ei ddyddiadur ''Diario d'amore'' a'r alargan "Il primo amore". Ym 1818, bu farw Terese Fattorini, merch fach y gyrrwr coetsis, trasiedi a fyddai'n ysbrydoli un o'i delynegion enwocaf, "A Silvia". Codwyd ei galon braidd ym 1818 pan gafodd ei ymweld gan yr ysgolhaig clasurol a gwladgarwr Pietro Giordani, a'i anogodd i ddianc rhag ei deulu. O'r diwedd, aeth Leopardi i Rufain am ychydig o fisoedd ym 1822–23, ond nid taith bleserus oedd honno. Dychwelodd i'w sefyllfa anhapus yn Recanati.
Cyhoeddwyd ei gasgliad enwog o farddoniaeth, ''Canzoni'', ym 1824. Y flwyddyn olynol, derbyniodd gynnig i olygu gweithiau Cicero ym Milan. Treuliodd y blynyddoedd wedyn yn teithio'n ôl ac ymlaen rhwng Bologna, Recanati, Pisa, a Fflorens. Cyhoeddwyd y casgliad o farddoniaeth ''Versi'' (1826) a'r traethiad athronyddol ''Operette morali'' (1827) yn ystod y cyfnod hwn. Bu'n rhaid iddo ddychwelyd i Recanati o 1828 i 1830 oherwydd diffyg arian, cyn iddo ddianc i Fflorens unwaith eto gyda chymorth ei gyfeillion. Yno cyhoeddodd gasgliad barddonol arall, ''I canti'' (1831). Ysbrydolwyd rhai o'i delynegion tristaf gan ei gariad am Fanny Targioni-Tozzetti o Fflorens. Magodd gyfeillgarwch agos â dyn ifanc o'r enw Antonio Ranieri, a oedd yn alltud o Napoli.
O'r diwedd ymsefydlodd Leopardi yn Napoli, Teyrnas y Ddwy Sisili, ym 1833. Yno ysgrifennai'r gerdd hir "Ginestra" (1836). Bu farw yn ystod epidemig y geri marwol yn Napoli yn 38 oed. Darparwyd gan Wikipedia