Henry Kissinger

Gwyddonydd gwleidyddol a diplomydd o'r Unol Daleithiau a aned yn yr Almaen oedd Henry Alfred Kissinger (27 Mai 192329 Tachwedd 2023) a dderbynodd Gwobr Heddwch Nobel. Gwasanaethodd fel Cynghorydd Diogelwch Cenedlaethol ac yn hwyrach ar y cyd fel Ysgrifennydd y Wladwriaeth yng ngweinyddiaethau'r Arlywyddion Richard Nixon a Gerald Ford.

O 1969 hyd 1977, chwaraeodd Kissinger rhan flaenllaw ym mholisi tramor yr Unol Daleithiau gan ymarfer safbwynt ''Realpolitik''. Yn ystod y cyfnod hwn, dechreuodd polisi ''détente'' â'r Undeb Sofietaidd, dilynodd polisi o nesâd â Gweriniaeth Pobl Tsieina, a thrafododd Cytundebau Heddwch Paris gan ddod ag ymyrraeth Americanaidd yn Rhyfel Fiet Nam i ben.

Roedd Kissinger yn ffigur dadleuol ac yn gadeirydd Kissinger Associates, busnes ymgynghori rhyngwladol. Roedd nifer o arlywyddion Americanaidd ac arweinwyr eraill o gwmpas y byd yn cymeryd ei farn a'i gyngor. Mae awdurdodau yn Ffrainc, Sbaen, Chile, a'r Ariannin wedi ceisio cwestiynu Kissinger am ei ran yn Ymgyrch Condor.

Bu farw Kissinger yn ei cartref yn Kent, Connecticut, yn 100 oed. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1 ar gyfer chwilio 'Kissinger, Henry, 1923-', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Kissinger, Henry, 1923-
    Cyhoeddwyd 1995
    Llyfr