Imre Kertész
Awdur o Hwngari oedd Imre Kertész (Hwngareg: Kertész Imre) (9 Tachwedd 1929 – 31 Mawrth 2016). Yn 2002 daeth yr awdur cyntaf o'i wlad i ennill Gwobr Lenyddol Nobel. Mae ei weithiau'n ymdrin â themâu'r Holocost, unbennaeth a rhyddid personol.Fe'i ganwyd yn Budapest yn fab i rieni Iddewig. Yn fachgen 14 oed fe'i carcharwyd yng ngwersyll difa Buchenwald yn yr Almaen. Darlunnir rhai o'r profiadau hyn yn ei nofelau ''Sorstalanság'' ("Diffyg tynged"; 1975), ''A kudarc'' ("Ffiasgo", 1988) a ''Kaddis a meg nem született gyermekért'' ("Gweddi dros blentyn heb ei eni"; 1990). Bu farw yn 86 oed, yn ei gartref yn Budapest ar ôl dioddef o glefyd Parkinson am nifer o flynyddoedd. Darparwyd gan Wikipedia