Hans Küng

Diwinydd ac offeiriad Catholig ac ysgolhaig o'r Swistir oedd Hans Küng (19 Mawrth 19286 Ebrill 2021).

Ganed ef yn Sursee, yng nghanton Lucerne, y Swistir, yn fab i werthwr esgidiau a merch ffermwr. Roedd ganddo un brawd a phum chwaer iau. Yn ôl ei atgofion, teimlodd Hans alwedigaeth yr offeiriadaeth yn 11 oed. Astudiodd yn y Brifysgol Grigoraidd yn Rhufain, ac yno ysgrifennodd ei draethawd ymchwil ar ddyneiddiaeth anffyddiol Jean-Paul Sartre a diwinyddiaeth Brotestannaidd Karl Barth. Cafodd Küng ei ordeinio'n offeiriad ym 1954 ym Masilica Sant Pedr. Derbyniodd ei ddoethuriaeth mewn diwinyddiaeth o Athrofa Gatholig y Sorbonne ym 1957 cyn iddo ddychwelyd i Lucerne i weithio yn y plwyf am 18 mis.

Symudodd Küng i Orllewin yr Almaen ac addysgodd ym Mhrifysgol Münster o 1959 i 1960 ac yn swydd athro diwinyddiaeth sylfaenol ym Mhrifysgol Tübingen o 1960 i 1963. Aeth i Ail Gyngor y Fatican ym 1962 pan gafodd ei benodi'n peritus (ymgynghorwr diwinyddol) gan y Pab Ioan XXIII. Enillodd rywfaint o nod fel diwinydd rhyddfrydol ifanc, dyn golygus mewn siwt swyddfa ac yn gyrru sbortscar, ac aeth ar daith ddarlithio i sefydliadau diwinyddol yn Unol Daleithiau America, ac yno fe'i gwahoddwyd i'r Tŷ Gwyn i gwrdd â John F. Kennedy, arlywydd Catholig cyntaf y wlad. Ym 1963 fe'i penodwyd yn athro diwinyddiaeth ddogmataidd ac eciwmenaidd ac yn gyfarwyddwr cyntaf y Sefydliad Ymchwil Eciwmenaidd ym Mhrifysgol Tübingen. Yno, o 1965 i 1968, gweithiodd gyda Joseph Ratzinger—yn ddiweddarach Pab Bened XVI.

Bu Küng yn awdur ac ysgolhaig hynod o doreithiog, a chyhoeddodd fwy na hanner cant o lyfrau, gan gynnwys hunangofiannau astudiaethau o amryw bynciau megis bodolaeth Duw, y berthynas rhwng gwyddoniaeth a chrefydd, bywyd ar ôl marwolaeth, Islam, Thomas More, Sigmund Freud, a Mozart. O ganlyniad i'w gyfrol ''Unfehlbar? Eine Anfrage'' (1970), ar bwnc anffaeledigrwydd y Pab, amheuodd y Fatican i Küng wyro oddi ar ddysgeidiaeth yr Eglwys Gatholig. Ym 1979 derbyniodd ŵys gan y Cynulliad dros Athrawiaeth y Ffydd, ond gwrthododd deithio i'r Fatican i amddiffyn ei hunan gan alw'r fath ymchwiliad yn "dreial o'r Oesoedd Canol". O ganlyniad, collodd Küng ei drwydded eglwysig i addysgu diwinyddiaeth mewn prifysgolion Catholig. Cafodd y penderfyniad ei feirniadu gan nifer o unigolion a sefydliadau, gan gynnwys Eglwys Loegr a Chyngor Eglwysi'r Byd, a chynhaliwyd gwylnos amdano gan fil o fyfyrwyr yn Tübingen. Bu'n rhaid i Brifysgol Tübingen symud ei broffesoriaeth a'r Sefydliad Ymchwil Eciwmenaidd o'r gyfadran Gatholig a'u rhoi o dan awdurdod senedd y brifysgol. Gweithiodd Küng ym Mhrifysgol Tübingen hyd at 1996. Wedi iddo ymddeol, sefydlodd y Stiftung Weltehos (Sefydliad Moeseg y Byd) i hyrwyddo cydweithredu rhwng gwahanol grefyddau'r byd. Bu farw Hans Küng yn Tübingen yn 93 oed. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 20 canlyniadau o 67 ar gyfer chwilio 'Küng, Hans', amser ymholiad: 0.02e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    Llyfr
  2. 2
    Llyfr
  3. 3
    Llyfr
  4. 4
    Llyfr
  5. 5
    gan Küng, Hans
    Cyhoeddwyd 1981
    Llyfr
  6. 6
    Llyfr
  7. 7
    Llyfr
  8. 8
    Llyfr
  9. 9
    Llyfr
  10. 10
    gan Küng, Hans
    Cyhoeddwyd 1968
    Cit
  11. 11
    Llyfr
  12. 12
    Llyfr
  13. 13
    Llyfr
  14. 14
    Llyfr
  15. 15
    Llyfr
  16. 16
    Llyfr
  17. 17
  18. 18
    Llyfr
  19. 19
    Llyfr
  20. 20
    Llyfr