Jorge Isaacs

Bardd a nofelydd o Golombia yn yr iaith Sbaeneg oedd Jorge Isaacs (1 Ebrill 183717 Ebrill 1895) sydd yn nodedig am ei nofel ''María'' (1867).

Ganed yn Cali, Talaith Cauca, yn fab i Iddew o Loegr. Etifeddodd ystadau ei dad, ond collodd ei gyfoeth yn sgil difrod Rhyfel y Cauca (1860–63). Ymsefydlodd yn Bogotá yn 1864 a chyhoeddodd gyfrol o gerddo, ''Poesías'' (1864).

Yn 1867 enillodd glod am ei nofel ramantaidd ''María'', gwaith sydd yn nodweddiadol o ''costumbrismo'' y 19g ac yn un o glasuron llên America Ladin. Bu farw yn Ibagué, Talaith Tolima, yn 58 oed. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 7 canlyniadau o 7 ar gyfer chwilio 'Isaacs, Jorge', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    Llyfr
  2. 2
    Llyfr
  3. 3
    Llyfr
  4. 4
    Llyfr
  5. 5
    Llyfr
  6. 6
    gan Isaacs, Jorge, 1837-1895
    Cyhoeddwyd 1951
    Llyfr
  7. 7