Hermann Hesse
Nofelydd a bardd o'r Almaen yn yr iaith Almaeneg a ymfudodd i'r Swistir oedd Hermann Hesse (2 Gorffennaf 1877 – 9 Awst 1962) a enillodd Wobr Lenyddol Nobel ym 1946.Ganed ef yn Calw, Teyrnas Württemberg, yng nghyfnod Ymerodraeth yr Almaen, a chafodd ei fagu yn Calw ac yn Basel yn y Swistir. Mynychodd yr ysgol yn Göppingen, ger Stuttgart, cyn cael ei dderbyn i Goleg Diwinyddol Maulbronn ym 1891. Er yr oedd yn ddisgybl galluog, nid oedd yn hoff o awyrgylch pietistaidd y drefn addysg, a gadawodd y coleg erbyn diwedd ei flwyddyn gyntaf.
Aeth yn brentis mewn ffatri glociau yn Calw, ac yn ddiweddarach yn brentis mewn siop lyfrau yn Tübingen. Ei brif ddyhead oedd i fod yn fardd, a chasgliad o gerddi oedd ei lyfr cyntaf, ''Romantische Lieder'' (1898). Gweithiodd yn werthwr llyfrau nes iddo gyhoeddi ei nofel gyntaf, ''Peter Camenzind'', ym 1904 a throi'n llenor llawn-amser ar ei liwt ei hun. Mae ei nofelau cynnar eraill yn cynnwys ''Unterm Rad'' (1906), ''Gertrud'' (1910), a ''Rosshalde'' (1914).
Cafodd Hesse sesiynau â'r seiciatrydd J. B. Lang, un o ddisgyblion Carl Jung, a gwelir dylanwad seicdreiddiad yn ei nofel ''Demian'' (1919). Ymwelodd â'r India, ac ysgrifennodd un o'i weithiau amlycaf, y nofel ''Siddhartha'' (1922), am hanes y Bwda. Mae ei nofelau diweddarach, gan gynnwys ''Der Steppenwolf'' (1927), ''Narziss und Goldmund'' (1930), a ''Das Glasperlenspiel'' (1943), yn ymwneud â deuoliaeth bywyd.
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf (1914–18), symudodd Hesse i'r Swistir, a oedd yn wlad niwtral, ac yno ysgrifennai ymosodiadau ar filitariaeth a chenedlaetholdeb, a golygydd hefyd gyfnodolyn ar gyfer carcharorion rhyfel Almaenig. Derbyniodd statws preswylydd parhaol ym 1919, a dinasyddiaeth Swisaidd ym 1923. Ymsefydlodd ym Montagnola, yng nghanton Ticino, a bu farw yno ym 1962 yn 85 oed. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 13 canlyniadau o 13 ar gyfer chwilio 'Hesse, Hermann', amser ymholiad: 0.01e
Mireinio'r Canlyniadau
-
1
-
2
-
3
-
4
-
5
-
6
-
7
-
8
-
9
-
10
-
11Rhif Galw: Llwytho...
Wedi'i leoli: Llwytho...Cit Llwytho... -
12gan Hesse, Hermann 1877 - 1962
Cyhoeddwyd 1983Rhif Galw: Llwytho...
Wedi'i leoli: Llwytho...Cit Llwytho... -
13gan Hesse, Hermann 1877 - 1962
Cyhoeddwyd 1998Rhif Galw: Llwytho...
Wedi'i leoli: Llwytho...Cit Llwytho...
Offerynnau Chwilio:
Cael Porthiant RSS
–
E-bostio'r Chwiliad hwn

