Stephen Hawking
Ffisegwr damcaniaethol, cosmolegydd ac awdur llyfrau ar seryddiaeth a gwyddoniaeth o Loegr oedd Stephen William Hawking CH, CBE, FRS, FRSA (8 Ionawr 1942 – 14 Mawrth 2018); awdur y gyfrol ddylanwadol ''A Brief History of Time'' (1988). Mae damcaniaeth y tyllau duon yn ddyledus i'w waith mathemategol arloesol yn ogystal â'r gwaith a wnaeth ar y cyd â Robert Penrose ar ddisgyrchiant fel rhan o waith ehangach ar ddamcaniaeth perthnasedd cyffredinol a mecaneg cwantwm.Cafodd ddiagnosis o glefyd motor niwron o fath ALS pan oedd yn 21 oed, yn 1963. Nid oedd disgwyl iddo fyw mwy na dwy flynedd. Gwaethygodd y symptomau dros y ddegawd ac er ei fod yn benderfynol o fyw bywyd annibynnol, fe'i berswadiwyd i ddefnyddio cadair olwyn erbyn diwedd y 1960au. Yn yr 1980au daliodd niwmonia ac yn y driniaeth cafodd driniaeth traceotomi a ddinistriodd yr hyn oedd yn weddill o'i lais. Yn 1986 dechreuodd ddefnyddio rhaglen gyfrifiadur "Equalizer" o Walter Woltosz, prif weithredwr Words Plus. Roedd yn gallu gwasgu botwm i ddewis geiriau o'r sgrîn er mwyn adeiladu brawddegau a fyddai yn cael ei lleisio gan syntheseinydd llais. Dros amser daeth y llais electronig amrwd gyda'r acen Americanaidd yn gysylltiedig â Hawking. Er fod lleisiau eraill a gwell wedi eu datblygu dros y blynyddoedd, cadwodd y llais gwreiddiol am ei fod yn uniaethu ag e.
Fe'i ganwyd yn Rhydychen. Yn 1950 pan benodwyd ei dad yn brif ymchwilydd ''National Institute for Medical Research,'' symudodd y teulu i St Albans, Swydd Hertford ble'r aeth i'r ysgol leol. Priododd ddwywaith ac roedd ganddo dri o blant. Darparwyd gan Wikipedia