Federico García Lorca

bawd|200px|Cerfddelw García Lorca yn y plaza de Santa Ana yn Madrid

Roedd Federico García Lorca (5 Mehefin 1898 - 18 Awst 1936) yn fardd a dramodydd o Sbaen. Ystyrir ef yn un o brif lenorion Sbaen yn yr 20g; ei waith enwocaf yw'r ddrama ''Bodas de sangre'' ("Priodas Waed") (1933).

Ganed ef yn Fuente Vaqueros, gerllaw Granada yn Andalucía. Cyhoeddodd ei lyfr cyntaf, ''Impresiones y paisajes'', yn 1918. Yn 1929 teithiodd i Efrog Newydd, lle cyfansoddodd gyfrol o gerddi.

Pan ddechreuodd Rhyfel Cartref Sbaen, roedd ym Madrid. Roedd Lorca yn adnabyddus fel cefnogwr y chwith yn wleidyddol, ond mynnodd deithio yn ôl i Granada, oedd yn nwylo cefnogwyr Franco. Ar 16 Awst 1936 roedd yn aros yn nhŷ cyfaill pan gymerwyd ef yn garcharor. Saethwyd ef ddau ddiwrnod yn ddiweddarach. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 6 canlyniadau o 6 ar gyfer chwilio 'García Lorca, Federico 1898-1936', amser ymholiad: 0.02e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan García Lorca, Federico 1898-1936
    Cyhoeddwyd 1997
    Llyfr
  2. 2
  3. 3
    gan García Lorca, Federico 1898-1936
    Cyhoeddwyd 1977
    Llyfr
  4. 4
    gan García Lorca, Federico 1898-1936
    Cyhoeddwyd 1997
    Llyfr
  5. 5
    gan García Lorca, Federico 1898-1936
    Cyhoeddwyd 1971
    Llyfr
  6. 6
    gan García Lorca, Federico 1898-1936
    Cyhoeddwyd 1971
    Llyfr