Mahatma Gandhi

Cenedlaetholwr gwrth-wladychol a heddychwr o India oedd Mohandas Karamchand Gandhi (2 Hydref 186930 Ionawr 1948) (Devanagari: मोहनदास करमचन्द गांधी, Gujarati મોહનદાસ કરમચંદ ગાંધી). Roedd hefyd yn gyfreithiwr Indiaidd, a moesegydd gwleidyddol a heddychwr a arweiniodd wrthwynebiad di-drais ei bobl yn eu hymgyrch lwyddiannus dros annibyniaeth India yn erbyn rheolaeth Lloegr (Prydain), ac i ysbrydoli ymgyrchoedd dros hawliau sifil a rhyddid ledled y byd.

Mae'r enw Mahātmā anrhydeddus (Sansgrit: "eneidfawr" neu "hybarch"), a gymhwyswyd gyntaf iddo ym 1914 yn Ne Affrica, bellach yn cael ei ddefnyddio ledled y byd. Adnabyddir ef fel rheol fel Mahatma Gandhi; ystyr ''Mahatma'' yw "Eneidfawr".

Mae ei athroniaeth wedi dylanwadu ar nifer o arweinwyr ymgyrchoedd am hawliau, er enghraifft Martin Luther King a Nelson Mandela.

Daeth yn arweinydd Cyngres Genedlaethol India ym 1921, ac arweiniodd Gandhi ymgyrchoedd ledled y wlad i leddfu tlodi, ehangu hawliau menywod, adeiladu hawliau crefyddol ac ethnig, dod â chyffyrddadwyedd (''untouchability'') i ben, ac, yn anad dim, cyflawni ''swaraj'' . Roedd y syniad o swaraj, neu hunanreolaeth yn pwysleisio llywodraethu, nid gan lywodraeth hierarchaidd, ond trwy hunan-lywodraethu trwy unigolion ac adeiladu cymunedol, lle mae'r ffocws ar ddatganoli gwleidyddol.

Mabwysiadodd Gandhi y ''dhoti'' byr - math o wisg wedi'i wehyddu ag edafedd wedi'i nyddu â llaw er mwyn uniaethu â thlodion gwledig India. Dechreuodd fyw mewn cymuned hunangynhaliol, i fwyta bwyd syml, ac ymgymryd ag ymprydiau hir fel modd o fewn-fyfyrio ac fel protest wleidyddol. Gan ddod â chenedlaetholdeb gwrth-wladychol i'r Indiaid cyffredin, arweiniodd Gandhi drwy herio'r dreth halen a orfodwyd gan Loegr gyda'r 400 km (250 milltir) ym 1930 ac wrth alw ar y Saeson i adael India ym 1942. Fe'i carcharwyd lawer gwaith ac am nifer o flynyddoedd yn Ne Affrica ac India.

Mae pen-blwydd Gandhi, 2 Hydref, yn cael ei gofio yn India fel Gandhi Jayanti, gwyl genedlaethol, a ledled y byd fel Diwrnod Rhyngwladol Di-drais. Mae Gandhi yn cael ei ystyried yn gyffredin, er nad yn swyddogol, yn Dad y Genedl yn India ac fe'i gelwid yn gyffredin yn Bapu (Gwjarati : y ''tad'', ''dada'' ). Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 4 canlyniadau o 4 ar gyfer chwilio 'Gandhi', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Gandhi
    Llyfr
  2. 2
    gan Gandhi
    Llyfr
  3. 3
    Llyfr
  4. 4
    Llyfr