Ralph Ellison
Llenor o'r Unol Daleithiau oedd Ralph Waldo Ellison (1 Mawrth 1913 – 16 Ebrill 1994) sydd yn nodedig am ei nofel ''Invisible Man'' (1952), un o'r gweithiau pwysicaf yn llenyddiaeth yr Americanwyr Affricanaidd.Ganed ef i deulu croenddu o'r dosbarth gweithiol yn Ninas Oklahoma, Oklahoma, Unol Daleithiau America. Credai am y rhan fwyaf o'i oes taw 1914 oedd blwyddyn ei eni, ond mae cofnod o'r cyfrifiad cenedlaethol yn profi iddo gael ei eni ym 1913. Dysgodd i ganu'r trwmped, ac astudiodd gerddoriaeth yn Sefydliad Normal a Diwydiannol Tuskegee (bellach Prifysgol Tuskegee) yn Alabama am dair blynedd cyn symud i Ddinas Efrog Newydd ym 1936. Yno, fe ddaeth yn gyfeillgar â Richard Wright, a anogodd iddo geisio lenydda. Ymddiddorai Ellison yn gryf mewn darllen ac ysgrifennu, a phenderfynodd i ganlyn gyrfa lenyddol yn hytrach nag ennill ei damaid fel cerddor. Dechreuodd gyfrannu straeon byrion, adolygiadau, ac ysgrifau i gyfnodolion ym 1937. Gweithiodd i'r Prosiect Llenorion Ffederal (FWP), un o raglenni'r Fargen Newydd, o 1938 i 1942, a gwasanaethodd yn rheolwr golygyddol ''The Negro Quarterly'' ym 1941. Ni chafodd ei alw i'r lluoedd arfog yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ond ymunodd â Llynges Fasnachol yr Unol Daleithiau ym 1943 a gwasanaethodd yn weinydd a chogydd ar sawl llong.
Cyhoeddwyd ei gampwaith, ''Invisible Man'', ym 1952, a dyna'r unig nofel ganddo a gyhoeddwyd yn ystod ei oes. Archwilia'r stori hon brofiadau Americanwr Affricanaidd dienw yn Harlem sydd yn ymlafnio yn erbyn hiliaeth ac anweledigrwydd cymdeithasol, a'i frwydr i ddeall ac hawlio'i hunaniaeth. Derbyniodd glod gan feirniaid a darllenwyr, ac enillodd y Wobr Lyfr Genedlaethol am Ffuglen ym 1953. Fodd bynnag, cafodd ei gondemnio gan ambell awdur croenddu am ganolbwyntio ar arddull a chrefft ei waith yn hytrach na pholemeg wleidyddol a dadleuon dros newid cymdeithasol.
Cyhoeddodd Ellison ddwy gyfrol arall yn ystod ei oes, y casgliadau o ysgrifau ''Shadow and Act'' (1964) a ''Going to the Territory'' (1986). Darlithiodd yn fynych ar bynciau diwylliannol yr Americanwyr Affricanaidd, gan gynnwys llên gwerin, ac ysgrifennu creadigol, ac addysgodd mewn sawl coleg a phrifysgol ar draws yr Unol Daleithiau. Bu farw Ralph Ellison yn Efrog Newydd yn 81 oed, o ganser y pancreas. Wedi ei farwolaeth, cyhoeddwyd casgliad o'i straeon byrion, ''Flying Home, and Other Stories'' (1996), y nofelau anorffenedig ''Juneteenth'' (1999) a ''Three Days Before the Shooting...'' (2010), a detholiadau o'i lythyrau ac ysgrifau. Darparwyd gan Wikipedia