Julio Cortázar

Nofelydd, awdur straeon byrion, bardd, dramodydd, ac ysgrifwr yn yr iaith Sbaeneg o'r Ariannin oedd Julio Cortázar, a ysgrifennai hefyd dan y ffugenw Julio Denis (26 Awst 191412 Chwefror 1984). Mae ei waith yn nodedig am ei dechnegau arbrofol a'i themâu dirfodol. Roedd yn un o brif lenorion y ''boom latinoamericano'' ac yn un o'r ffigurau pwysicaf yn llên yr Ariannin yn yr 20g.

Ganwyd yn Ixelles, un o fwrdeistrefi Brwsel, Gwlad Belg, yn fab i rieni o'r Ariannin. Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf, symudodd y teulu yn ôl i'r Ariannin ac yno cafodd ei addysg. Gweithiodd fel athro a chyfieithydd. Ysgrifennodd ei nofelau cyntaf yn 1949 (''Divertimento'') a 1950 (''El Examen''), ond ni chawsant eu cyhoeddi nes ar ôl ei farwolaeth. Roedd Cortázar yn anfodlon â llywodraeth Juan Perón a sefyllfa'r dosbarth canol yn yr Ariannin, ac ymfudodd felly i Baris, Ffrainc, yn 1951.

Yn 1951 cyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o straeon byrion, ''Bestiario'', ac yn ddiweddarach casglwyd rhagor o'i ffuglen yn ''Final del juego'' (1956), ''Las armas secretas'' (1958), ''Historias de cronopios y de famas'' (1962), ''Todos los fuegos el fuego'' (1966), ''Un tal Lucas'' (1979), a ''Queremos tanto a Glenda, y otros relatos'' (1981). Ystyrir yr wrthnofel ''Rayuela'' (1963) yn gampwaith Cortázar. Cyhoeddodd dair nofel arall yn ystod ei oes: ''Los premios'' (1960), ''62/modelo para armar'' (1968), a ''Libro de Manuel'' (1973). Ysgrifennodd hefyd farddoniaeth, dramâu, a sawl cyfrol o ysgrifau.

Derbyniodd ddinasyddiaeth Ffrengig yn 1981. Bu farw ym Mharis yn 69 oed i drawiad ar y galon, wedi iddo ddioddef o liwcemia am nifer o fisoedd. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 20 canlyniadau o 20 ar gyfer chwilio 'Cortázar, Julio', amser ymholiad: 0.02e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    Llyfr
  2. 2
    Llyfr
  3. 3
    Llyfr
  4. 4
    Llyfr
  5. 5
    Llyfr
  6. 6
    Llyfr
  7. 7
    Llyfr
  8. 8
    Llyfr
  9. 9
    Llyfr
  10. 10
    Llyfr
  11. 11
    Llyfr
  12. 12
    Llyfr
  13. 13
    Llyfr
  14. 14
    Llyfr
  15. 15
    Llyfr
  16. 16
    Llyfr
  17. 17
    Llyfr
  18. 18
    Llyfr
  19. 19
    Llyfr
  20. 20
    Llyfr