Marc Chagall
Roedd Marc Chagall (7 Gorffennaf 1887 - 28 Mawrth 1985) yn beintiwr, printiwr a chynllunydd. Bu’n gysylltiedig gyda nifer o arddulliau celfyddydol, cyfunodd elfennau Ciwbiaeth, Symbolaeth a Fauve gyda'i ddehongliad unigryw o gelf werinol Iddewig dwyrain Ewrop. Dangosodd ei waith ''Fi a'r Pentref'' (1911) syniadaeth Swrealaeth rhai blynyddoedd cyn ffurfio mudiad y Swrrealaidd ei hun. Yn fodernydd cynnar, creodd Chagall waith yn bron bob cyfrwng celfyddydol, yn cynnwys setiau llwyfan, engrafiadau (etchings) Beiblaidd a gwydr lliw.Ystyrir fel un o arlunwyr mwyaf llwyddiannus yr 20g. Darparwyd gan Wikipedia