Thomas Carlyle

Hanesydd, traethodydd, a bywgraffydd o'r Alban oedd Thomas Carlyle (4 Rhagfyr 17955 Chwefror 1881). Efe oedd prif feirniad diwylliannol yr oes Fictoriaidd, a dylanwadodd ar nifer o feirniad iau y cyfnod, gan gynnwys Matthew Arnold a John Ruskin. Dadleuodd o blaid arweinyddiaeth dadol a chryfder yr arwr, gan feirniadu damcaniaeth ''laissez-faire'' a llywodraeth seneddol. Mae ganddo arddull hynod o nodweddiadol: "cyfuniad o ymadroddion beiblaidd, geiriau gwerin, ystumiadau Tiwtonaidd, a bathiadau ei hunan, yn nhrefn yr annisgwyl".

Ganwyd yn Ecclefechan, Swydd Dumfries, i deulu mawr o Galfiniaid. Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Annan a Phrifysgol Caeredin, ac yno ymddisgleiriodd ym maes mathemateg. Cychwynnodd ar ei yrfa yn diwtor, ysgolfeistr, a newyddiadurwr. Darllenodd lyfr Germaine de Staël ar yr Almaen, gan fagu ynddo ddiddordeb yn llenyddiaeth ac athroniaeth Almaenig. Ymhlith ei weithiau cynnar mae ''Life of Schiller'' (1823) a'i gyfieithiad o ''Wilhelm Meister'' (1824) gan Goethe.

Priododd Jane Baillie Welsh ym 1826. Cyhoeddodd ei hunangofiant ysbrydol, ''Sartor Resartus'', yng nghylchgrawn ''Fraser's'' ym 1833–34, cyn iddo symud i fyw yn Llundain. Ysgrifennodd hanes y Chwyldro Ffrengig (1837), traethawd ar Siartiaeth (1839), casgliad o'i ddarlithoedd dan y teitl ''On Heroes, Hero-Worship, and The Heroic in History'' (1841), golygiad o lythyrau ac areithiau Cromwell (1845), a bywgraffiad Ffredrig Fawr (1858–65).

Bu farw ei wraig ym 1866, ac ar ddiwedd ei fywyd cafodd Carlyle ei weld yn broffwyd hen ffasiwn. Claddwyd ym Mynwent Ecclefechan. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1 ar gyfer chwilio 'Carlyle, Thomas', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    Llyfr