Mario Benedetti
Bardd, nofelydd, llenor straeon byrion, ac ysgrifwr o Wrwgwái yn yr iaith Sbaeneg oedd Mario Benedetti (14 Medi 1920 – 17 Mai 2009). Cyhoeddodd mwy na 80 o lyfrau yn ystod ei oes.Ganwyd yn Paso de los Toros, Tacuarembó, i fewnfudwyr Eidalaidd. Symudodd y teulu i'r brifddinas Montevideo pan oedd Mario yn 4 oed, ac yno mynychodd ysgol breifat.
Bu'n byw yn Buenos Aires, prifddinas yr Ariannin, am gyfnod cyn iddo ddychwelyd ym Montevideo yn nechrau'r 1940au. Yn 1945 cyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, ''La víspera indeleble'', ac ymunodd â'r cylchgrawn adain-chwith ''Marcha''. Benedetti oedd un o sefydlwyr ''Frente Amplio'', mudiad adain-chwith cyffredin yn Wrwgwái. Priododd Luz López Alegre yn 1946, a buont yn briod nes ei marwolaeth hi o glefyd Alzheimer yn 2006. Mae ei gyfrolau eraill o farddoniaeth yn cynnwys ''Poemas de la oficina'' (1956). Ymhlith ei gasgliadau o straeon byrion mae ''Montevideanos'' (1959), ac ymhlith ei nofelau mae ''La tregua'' (1960) ac ''El cumpleaños de Juan Angel'' (1971).
Wedi i'r unbennaeth sifil-filwrol gipio grym yn 1973, bu'n rhaid i Benedetti adael Wrwgwái, ac aeth yn alltud yn yr Ariannin. Yno cafodd ei fygwth gan un o grwpiau parafilwrol yr adain dde, ac aeth i Beriw am chwe mis nes iddo gael ei allgludo. O'r diwedd, ymsefydlodd yng Nghiwba, a gweithiodd i'r cwmni cyhoeddi Casa de las Américas. Ysgrifennodd am ei brofiadau'n alltud yn y gyfrol ''El desexilio y otras conjeturas'' (1984).
Dychwelodd i Montevideo yn 1983, a bu'n teithio i Fadrid a Mallorca am gyfnodau hirion. Bu farw ym Montevideo yn 88 oed. Darparwyd gan Wikipedia