Simone de Beauvoir

Awdures o Ffrainc oedd Simone Lucie-Ernestine-Marie-Bertrand de Beauvoir (9 Ionawr 190814 Ebrill 1986). Roedd yn brif ddamcaniaethwr ffeministiaeth, yn enwedig oherwydd ei llyfr dylanwadol ''Le Deuxième Sexe'' (1949). Dadleuai yn ei nofelau a'i hysgrifau o blaid rhyddid i ferched yn eu bywyd personol a phroffesiynol.

Roedd hi'n gyfaill i'r athronydd ac awdur Jean-Paul Sartre. Cyfarfu ag ef am y tro cyntaf yn y Sorbonne yn 1929. Fel Sartre ei hun roedd Simone de Beauvoir yn arddel athroniaeth Dirfodaeth (''Existentialisme'') ac mae'r athroniaeth honno'n ddylanwad mawr ar ei gwaith. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 2 canlyniadau o 2 ar gyfer chwilio 'Beauvoir, Simone de 1908-1986', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Beauvoir, Simone de 1908-1986
    Cyhoeddwyd 2001
    Llyfr
  2. 2
    gan Beauvoir, Simone de 1908-1986
    Cyhoeddwyd 1984
    Llyfr