Mikhail Bakunin

Chwyldroadwr, anarchydd ac athronydd o Rwsia oedd Mikhail Bakunin (30 Mai 1814 - 1 Gorffennaf 1876). Gwrthododd bob math o awdurdod a phob math o gyfalafiaeth, gan eu hystyried yn anghydnaws â rhyddid.

Dechreuodd yn genedlaetholwr cyn gwrdd â chyfoeswyr megis Karl Marx a'r anarchydd Pierre-Joseph Pruodhon ym Mharis yn yr 1840au. Datblygodd ei syniadau gan ddod yn anarchydd cyfunol - erbyn heddiw ystyrir yn dad i'r athrawiaeth gan nifer. Roedd bri a phoblograwydd Bakunin fel chwyldroadwr hefyd yn ei wneud yn un o'r ideolegau enwocaf yn Ewrop, gan ennill dylanwad sylweddol ymhlith radicaliaid ledled Rwsia ac Ewrop.

Daeth yn un o brif gynrychiolwyr yr anarchwyr yn y Gymdeithas Ryngwladol Gyntaf tan iddo gael ei ddiarddeliad gan Karl Marx a'i ddilynwyr yn 1872. Diffiniodd y rhwyg y wahaniaeth rhwng sosialaeth "wladwriaethol" Marcsiaeth a sosialaeth "gwrth-wladwriaethol" anarchiaeth, athrawiaethau oedd cynt yn weddol gydlynol. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1 ar gyfer chwilio 'Bakunin, Mikhail', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    Llyfr