Sholem Asch

Llenor Iddewig a ymfudodd o Wlad Pwyl i'r Unol Daleithiau oedd Sholem Asch (1 Tachwedd 188010 Gorffennaf 1957) sy'n nodedig am ei nofelau, dramâu, a straeon byrion yn yr iaith Iddew-Almaeneg.

Ganed i deulu mawr o Iddewon tlawd yn Kutno yng nghanolbarth Gwlad Pwyl, Ymerodraeth Rwsia. Mynychodd yr ysgol Hebraeg yn Kutno. Symudodd i Warsaw yn 1899 a chyhoeddodd ei stori gyntaf, yn Hebraeg, yn 1900. Ar gyngor yr awdur I. L. Peretz, penderfynodd Sholem ysgrifennu drwy gyfrwng yr Iddew-Almaeneg yn unig. Ei waith cyntaf i'w gyhoeddi yn yr iaith honno oedd y nofel ''Dos Shtetl'' (1905). Mae ei straeon a dramâu o'r cyfnod hwn yn ymwneud â bywyd trasicomig y shtetl a'r gwrthdaro rhwng y traddodiadau Iddewiaeth a'r mudiad i ryddfreinio'r Iddewon.

Ymwelodd Asch â'r Unol Daleithiau yn 1910, a symudodd yno i fyw yn 1914. Derbyniodd ddinasyddiaeth Americanaidd yn 1920. Fel aelod newydd o gymuned Iddew-Almaeneg yr Unol Daleithiau, ysgrifennodd sawl nofel am brofiadau diwylliannol ac economaidd mewnfudwyr Iddewig o Ddwyrain Ewrop. Dychwelodd yn aml i Ewrop ac aeth ar sawl taith i Balesteina. Yng nghyfnod olaf ei yrfa, ceisiodd uno themâu a syniadau Iddewig a Christnogol yn ei ffuglen. Cafodd ei gondemnio gan rai o'i gyfoedion am ei ymdriniaeth o grefydd yn ei waith. Treuliodd ei flynyddoedd olaf yn Bat Yam, Tel Aviv, Israel. Bu farw yn Llundain yn 76 oed. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 2 canlyniadau o 2 ar gyfer chwilio 'Asch, Sholem', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    Llyfr
  2. 2
    gan Asch, Sholem
    Cyhoeddwyd 1945
    Cit