Pedro Antonio de Alarcón
Nofelydd, bardd, dramodydd, a newyddiadurwr [o [Sbaen]] yn yr iaith Sbaeneg oedd Pedro Antonio de Alarcón y Ariza (10 Mawrth 1833 – 10 Gorffennaf 1891) sy'n nodedig am ei nofel ''El sombrero de tres picos'' (1874).Ganed yn Guadix, Granada, a chychwynnodd ei yrfa lenyddol yn newyddiadurwr ac yn fardd. Cafodd fethiant gyda'i ddrama ''El hijo pródigo'' (1857), ac aeth yn filwr yn ymgyrch Moroco yn 1859–60. Ysgrifennodd ''Diario de un testigo de la guerra de Africa'' (1859) am ei brofiadau.
Dychwelodd i Sbaen a daeth yn olygydd y cyfnodolyn gwrthglerigol ''El Látigo''. Ystyrir ei waith amlycaf, y nofel fer ''El sombrero de tres picos'', yn glasur o ffuglen ''costumbrismo''. Ymhlith ei nofelau eraill mae ''El final de Norma'' (1855), ''El escándalo'' (1875), ac ''El niño de la bola'' (1880). Bu farw yn Valdemoro, ger Madrid, yn 58 oed. Darparwyd gan Wikipedia